Camddefnyddio sylweddau

Camddefnyddio sylweddau
Tun i gadw teclynau'n ymwneud â chyffuriau
Enghraifft o'r canlynolgweithgaredd dynol, dosbarth o glefyd, trosedd Edit this on Wikidata
Mathproblem gymdeithasol, y defnydd o gyffuriau, clefyd Edit this on Wikidata
AchosAnhwylder defnydd sylwedd edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Camddefnyddio sylweddau, a elwir hefyd yn gam-drin cyffuriau, yw'r defnydd o gyffur neu'r dulliau o gymryd y cyffur, sy'n niweidiol i'r unigolyn neu eraill. Mae'n fath o anhwylder sy'n gysylltiedig â sylweddau. Defnyddir diffiniadau gwahanol o gamddefnyddio cyffuriau yng nghyd-destun iechyd y cyhoedd, meddygol a chyfiawnder troseddol. Mewn rhai achosion, mae ymddygiad troseddol neu wrthgymdeithasol yn digwydd pan fydd y person dan ddylanwad cyffur, a gall newidiad mewn personoliaeth hirdymor ddigwydd mewn unigolion hefyd.[1] Yn ogystal â niwed corfforol, cymdeithasol a seicolegol posibl, gall defnyddio rhai cyffuriau hefyd arwain at gosbau troseddol, er bod y rhain yn amrywio'n fawr yn dibynnu ar yr awdurdod lleol.[2]

Ymhlith y cyffuriau a gysylltir amlaf â'r term hwn mae: alcohol, tybaco, amffetaminau, barbitwradau, bensodiasepinau, canabis, cocên, rhithbeiriau, methacwalon, ac opioidau. Nid yw pam fod pobl yn troi at gam-drin sylweddau, ond mae dwy brif ddamcaniaeth: naill ai rhagdueddiad genetig neu arfer a ddysgwyd gan eraill, sydd, os bydd dibyniaeth yn datblygu, yn amlygu ei hun fel clefyd gwanychol cronig.[3]

Yn 2010 roedd tua 5% o bobl (230 miliwn) ledled y byd yn defnyddio sylwedd anghyfreithlon.[4] O'r rhain, roedd 27 miliwn yn defnyddio cyffuriau risg uchel—a elwir fel arall yn ddefnydd rheolaidd o gyffuriau—sy'n achosi niwed i'w hiechyd, yn achosi problemau seicolegol, a/neu'n achosi problemau cymdeithasol sy'n eu rhoi mewn perygl enbyd.[4][5] Yn 2015, arweiniodd anhwylderau defnyddio sylweddau at 307,400 o farwolaethau, i fyny o 165,000 o farwolaethau yn 1990.[6][7] O'r rhain, mae'r niferoedd uchaf yn deillio o alcohol (137,500 o farwolaethau), anhwylderau defnyddio opioid (122,100), anhwylderau defnyddio amffetamin (12,200) ac anhwylderau defnyddio cocên ar 11,100.[6]

  1. Ksir, Oakley Ray; Charles (2002). Drugs, society, and human behavior (arg. 9th). Boston [u.a.]: McGraw-Hill. ISBN 978-0072319637.
  2. (2002). Mosby's Medical, Nursing & Allied Health Dictionary. Sixth Edition. Drug abuse definition, p. 552. Nursing diagnoses, p. 2109. ISBN 0-323-01430-5.
  3. "Addiction is a Chronic Disease". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 24 June 2014. Cyrchwyd 2 July 2014.
  4. 4.0 4.1 "World Drug Report 2012" (PDF). UNITED NATIONS. Cyrchwyd 27 September 2016.
  5. "EMCDDA | Information on the high-risk drug use (HRDU) (formerly 'problem drug use' (PDU)) key indicator". emcdda.europa.eu. Cyrchwyd 2016-09-27.
  6. 6.0 6.1 GBD 2015 Mortality and Causes of Death Collaborators (8 October 2016). "Global, regional, and national life expectancy, all-cause mortality, and cause-specific mortality for 249 causes of death, 1980–2015: a systematic analysis for the Global Burden of Disease Study 2015.". Lancet 388 (10053): 1459–1544. doi:10.1016/S0140-6736(16)31012-1. PMC 5388903. PMID 27733281. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=5388903.
  7. GBD 2013 Mortality and Causes of Death, Collaborators (17 December 2014). "Global, regional, and national age-sex specific all-cause and cause-specific mortality for 240 causes of death, 1990–2013: a systematic analysis for the Global Burden of Disease Study 2013.". Lancet 385 (9963): 117–71. doi:10.1016/S0140-6736(14)61682-2. PMC 4340604. PMID 25530442. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=4340604.

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search